Crynodeb o’r cwrs
Mae cyrsiau AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) a gynigir yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill profiad ac i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd cyfrifyddu. Mae cyrsiau’n cynnwys tair lefel.
Mae’r cwrs hwn yn rhedeg Coleg Castell-nedd – Dydd Llun rhwng 09:00 a 17:00. Dim ond wyneb yn wyneb y cynhelir y cwrs hwn yng Ngholeg Castell-nedd ar hyn o bryd – gall myfyrwyr ddewis mynychu’n bersonol neu ar-lein. Ar-lein yn unig y cynhelir y cwrs i fyfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog a Choleg y Drenewydd.
Mae pob lefel yn cynrychioli cymhwyster ynddo’i hun. Mae myfyrwyr yn derbyn tystysgrif ar gyfer pob lefel a gyflawnir. Mae angen cofrestru gydag AAT a thelir cost hyn yn uniongyrchol i’r corff proffesiynol. Yn ogystal â ffi’r cwrs, bydd angen i fyfyrwyr dalu ffioedd arholiad o £280 (gallai’r corff dyfarnu newid ffioedd arholiad).
Ymhlith yr unedau mae Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol, Cyfrifon Rheoli (gan gynnwys Taenlenni), Ymwybyddiaeth Busnes a Phrosesau Treth i Fusnesau a fydd yn darparu dealltwriaeth dda i’r gweithiwr cyfrifyddu newydd neu’r rhai sy’n dymuno mynd i mewn i’r amgylchedd cyfrifyddu.

-
Gofynion Mynediad
Mae angen gwybodaeth flaenorol am Lefel 2 neu brofiad / cymwysterau perthnasol i fynd i'r lefel astudio hon.
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Mae'r cymwysterau hyn wedi'u bwriadu ar gyfer dysgwyr dros 16 oed mewn ystod eang o leoliadau ond yn bennaf yn gweithio mewn lleoliad cyfrifyddu neu ariannol. Dilyniant i Ddiploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg.
-
Modiwlau’r cwrs
Wedi'i gyflwyno trwy gydol y flwyddyn academaidd am 1 diwrnod yr wythnos.
-
Dull Asesu
Arholiadau ar-lein wedi'u gosod yn allanol ynghyd ag arholiad synoptig sy'n cynnwys pob maes astudio.
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
Blwyddyn
Fee
£750.00 – funding available, subject to eligibility