Crynodeb o’r cwrs
Mae’r hyfforddiant yn rhoi lefel uwch o wybodaeth am faterion diogelu i ddysgwyr, a thrwy hynny yn eich helpu i ddatblygu’r gallu i weithredu ar bryderon am ddiogelwch a lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed.
Dylai’r holl staff sy’n gweithio mewn ysgolion/lleoliadau gofal plant gael hyfforddiant i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu rôl a’u cyfrifoldeb i ddiogelu plant.
-
Gofynion Mynediad
Dim. Mae'r cymwysterau hyn wedi'u bwriadu ar gyfer dysgwyr dros 18 oed mewn ystod eang o leoliadau, gan gynnwys lleoliadau seiliedig ar waith a chymunedol eraill.
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Dylai ennill y cymhwyster hwn gynyddu hyder a chymhelliant dysgwyr, a bydd y sgiliau y byddant yn eu hennill yn werthfawr mewn dysgu pellach, gwaith a bywyd yn gyffredinol. Gall dysgu rhan-amser wella eich rhagolygon gwaith presennol neu roi hwb i yrfa newydd sbon. Byddwch yn gallu ennill sgiliau a chymwysterau newydd sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol i’ch helpu i symud ymlaen.
-
Modiwlau’r cwrs
• Deall eich rôl eich hun mewn perthynas â diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
• Gallu adnabod gwahanol fathau o niwed, cam-drin ac esgeulustod
• Gwybod sut i ymateb i ddatgeliad a'i gofnodi
-
Dull Asesu
Asesir trwy gyfranogiad gweithredol mewn trafodaethau dosbarth.
-
Costau Ychwanegol
Dim
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
1 year