Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes (Rhan-Amser)

Crynodeb o’r cwrs

Mae cyfryngau cymdeithasol i fusnesau bellach yn fwy effeithiol nag erioed, os ydych chi am wella cyfryngau cymdeithasol eich busnesau yna fe allai’r cwrs hwn fod ar eich cyfer chi.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at berchnogion busnes, marchnatwyr, gweithwyr proffesiynol cysylltiadau cyhoeddus a phob unigolyn sy’n awyddus i ddod i ddeall sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol i greu cynnwys hyrwyddo deniadol.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys:
– Llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook, Twitter, LinkedIn, Instagram
– Deall sut mae gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gweithio, eu gwahaniaethau a’u manteision eu hunain
– Offer ar gyfer creu, monitro a chyhoeddi cyfryngau cymdeithasol
– Ennill hyder yn eich gweithgaredd marchnata cyfryngau cymdeithasol
– Creu cynnwys deniadol

Os ydych chi dros 19 oed ac yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd fe allech chi fod yn gymwys ar gyfer cwrs AM DDIM o dan gyllid Cyfrifon Dysgu Personol (PLA) Llywodraeth Cymru. Gallwn drafod cyllid gyda chi ar ôl ymchwilio.

  • Gofynion Mynediad

    Nid oes unrhyw ofynion mynediad. Fodd bynnag, mae angen i chi fod â diddordeb brwd mewn Cyfrifiadura

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Mae'r cwrs hwn yn fuddiol i bob marchnatwr a pherchennog busnes ac mae'n gwrs gwych ar gyfer datblygu gwybodaeth cyfryngau cymdeithasol

  • Dull Asesu

    Asesiad mewnol trwy dasgau rheoledig a chynhyrchu portffolio o dystiolaeth

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

1D

Fee

£0 – funding available, subject to eligibility