Archwilydd EMS Mewnol ISEP Ardystiedig

Crynodeb o’r cwrs

Nod y cwrs hwn yw rhoi dealltwriaeth ymarferol i gyfranogwyr o broses archwilio Systemau Rheoli Amgylcheddol (EMS) a sut y dylid ei chymhwyso i EMS eu sefydliad eu hunain.

Bydd y cwrs hwn yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i asesu ac adrodd ar gydymffurfiaeth a gweithrediad effeithiol prosesau, ac i gyfrannu at welliant parhaus system reoli amgylcheddol yn seiliedig ar safon ISO 14001:2015.

Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n gyfrifol am archwilio EMS.

  • Gofynion Mynediad

    Dim

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Bydd cyfranogwyr llwyddiannus yn cael y cyfle i symud ymlaen at y cwrs Tystysgrif Sylfaen ISEP mewn Rheolaeth Amgylcheddol.

  • Modiwlau’r cwrs

    Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu:
    - Cyflwyniad i Systemau Rheoli Amgylcheddol
    - Diben, strwythur ac elfennau ISO 14001
    - Gweithredu ISO 14001 a defnyddio ISO 14004
    - Cyflwyniad i safonau archwilio 19011
    - Sefydlu a rheoli rhaglen archwilio
    - Gweithgareddau cyn-archwilio: Amcanion, cwmpas, cynllunio a pharatoi dogfennau gwaith
    - Cynnal archwiliadau – cyfathrebu, rheoli timau archwilio, adolygu dogfennau, arsylwi ffisegol, sgiliau holi a thechneg cyfweld dda
    - Dadansoddi tystiolaeth, canfyddiadau, casgliadau, a pharatoi adroddiad archwilio
    - Cwblhau archwiliadau a gwaith dilynol ar yr archwiliad
    - Cymwyseddau, cyfrifoldebau a DPP yr archwilwyr
    - Pethau allweddol y mae’n rhaid eu gwneud a pheidio â’u gwneud

  • Dull Asesu

    - Prawf gwybodaeth
    - Archwiliad mewnol ymarferol gyda thystiolaeth fyw
    - Arsylwi gan diwtor

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

6 Wythnos

Fee

£1400.00 – funding available, subject to eligibility